Nofel gignoeth gan Heiddwen Tomos sy'n sôn am berthynas tad-cu â'i ddau ŵyr. Mae'r cymeriadau, a'u perthynas â'i gilydd, yn annwyl, yn gredadwy ac yn gofiadwy. Mae themâu cyfoes a thraddodiadol yma, megis perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad, ac mae'r ddeialog a'r naratif yn llifo a hiwmor yn frith drwyddi.