Mae'r llyfr yn adrodd hanes Kate Bosse-Griffiths a'i theulu cyn, ac yn ystod, yr Ail Ryfel Byd, ac yn disgrifio effeithiau polisi hil-laddiad y Nats�aid arni hi a'r teulu. Mae'n hanes ysgytwol a dirdynnol sy'n cynnwys llofruddiaeth ei mam, hunanladdiad ei modryb, diswyddiad ei thad oedd yn llawfeddyg llwyddiannus, ac erlid aelodau'r teulu i wledydd fel China a Sweden.