Casgliad o holl ganeuon y ddrama gerdd boblogaidd â chaledi Rhyfel y Degwm yn gefndir iddi, a berfformiwyd yn effeithiol gan Gwmni Theatr Meirion yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997, ac a fu wedyn ar daith lwyddiannus trwy Gymru, Cynhwysir sgôr cyfeiliant llawn. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 1998.