Wedi cwblhau ffurflen 'mabwysiadu eliffant', doedd Sam ddim yn disgwyl gweld eliffant go iawn ar garreg y drws, ond wedi iddo ddod i'r t?, mae'n un antur anferth ar �l y llall! Stori ddoniol gan yr awdur poblogaidd David Walliams, addasiad Cymraeg Gruffudd Antur a darluniau yr arlunydd Tony Ross. Cyfrol ddwyieithog sy'n addas i blant dros 3 oed.