A hithau’n ganmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, addas iawn yw clywed gan rai o bobl fwyaf adnabyddus Cymru am y rhan y mae’r mudiad wedi ei chwarae yn eu bywydau. Cyflwynir pytiau o brofiadau amrywiol a phersonol er mwyn cael cipolwg ysgafn a gwahanol i’r arfer o weithgaredd a gwerth yr Urdd.