Nofel gyfoes a diddorol sy'n wead celfydd o ddarluniau trawiadol. Mae'r gyfrol, gan awdur newydd, yn rhoi cipolwg ar fywydau nifer o bobl ar un diwrnod ym mis Mehefin. Cipolwg, ie, ond fe ddown ni i sylweddoli'n raddol fod cysylltiad rhyngddyn nhw. Mae'r cwlwm yn un tyn na ellir ei dorri ...