Dyddiadur i blant 6-12 oed, wedi'i seilio ar lyfr Na, Nel!
gan Meleri Wyn James. Wythnos dros ddwy dudalen a lle i ysgrifennu cofnod bob diwrnod. Bydd lle i lenwi amserlen ysgol a digwyddiadau eraill a bydd yn llawn hwyl, dwdls, gwybodaeth am Nel a digon o dudalennau i ysgrifennu cyfrinachau cudd! Dyma'r unig ddyddiadur Cymraeg i blant. Adargraffiad. Cyhoeddiad cyntaf 2014.