Yr ail gyfrol mewn cyfres hynod boblogaidd am y bachgen lliprynnaidd Greg Heffley. Dymuniad Greg ar ddechrau blwyddyn newydd yw anghofio am brofiadau cywilyddus a chyfrinachol yr haf. Ond gwŷr ei frawd mawr, Rodrick, y cyfan amdanynt, a'i fwriad yntau yw sicrhau na chaiff yr un ohonynt fynd yn angof!