0
0

Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill - Eben Fardd

£7.99
Ar gael
Product Details
UPC: 9781917237352
Awdur: Eben Fardd

Llithrig yw'r palmant llathrwyn

Môr gwaed ar y marmor gwyn.

Eben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon, Gwynedd, gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llŷn, ac mewn mân swyddi eraill.

Roedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc, a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng, gyda'i awdl Dinistr Jerusalem , ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o fri. Bu farw ond ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ac nid enillodd yr un o brif wobrau'r sefydliad hwnnw, er iddo gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod 1862 gyda'i awdl Y Flwyddyn.

Eben Fardd oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf a phwysicaf ei oes. Roedd yn feistr ar y gynghanedd, ac yng ngeiriau Thomas Parry, "gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Gwelir yn ei waith cynnar uchafbwynt clasuriaeth ddisgrifiadol y Gymraeg, ac yn ei waith diweddarach dechrau Rhamantiaeth.

Mae'r detholiad hwn o'i waith yn cynnwys tair o'i awdlau eisteddfodol a rhyw ddau ddwsin o gerddi byrrach yn adlewyrchu doniau'r bardd o Eifionydd.

Clawr papur, 136 tudalen.

Share this product with your friends
Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill - Eben Fardd
Share by: