Bywgraffiad Dic Penderyn (Richard Lewis, 1808-31), a grogwyd ar gam am drywanu milwr yn ystod Gwrthryfel Merthyr yn 1831 - trosedd y cyfaddefodd gŵr arall iddi yn ddiweddarach - ac a gofir fel Merthyr Cymreig. Mae'r gyfrol yn archwilio ei fywyd a'i gefndir, hyd y medrwn wneud hynny, ei waddol yn y tymor hir a'i rôl fel y merthyr llafur cyntaf.