Dewch i deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Beth ydy 'fjord'? Sut mae dweud 'helô' a 'hwyl fawr' yn yr iaith Norwyeg? Mae'r atebion - a llawer mwy - rhwng tudalennau'r llyfr apelgar hwn i ddysgwyr 5-7 oed.