Pen Llŷn yn yr 1980au. Mae cymuned glos o dan fygythiad gan gwmni olew enfawr sydd â'i fryd ar wneud elw. A fydd priodas hefyd o dan fygythiad wrth i wyneb o'r gorffennol ddod ag atgofion am gariad cyntaf yn ei sgil? Mae'n stori am gymdeithas sy'n wynebu newid, ac am gariad sydd wedi mynnu goroesi ar waetha treigl amser.