Llyfr stori-a-llun hwyliog mewn mydr ac odl am ddau frawd sy'n chwarae rygbi gan freuddwydio am gynrychioli eu gwlad. Yn eu dychymyg, y cae ger eu cartref yw Stadiwm y Mileniwm, c�n y fwyalchen yw chwiban y dyfarnwr i ddechrau'r g�m a rhaid gosod y b�l ar gyfer y trosiad tyngedfennol ar dwmpath y wahadden.