Mae'r Ditectif Jeff Evans a'r teulu, fel llawer iawn o deuluoedd eraill, wedi croesawu ci bach i'w cartref. Sylwa Meira ar farciau mewn sialc wrth giât y tŷ, a daw'n amlwg fod rhywun neu rywrai yn dwyn cŵn ar hyd a lled yr ardal. Wrth i Jeff ymchwilio'n ddyfnach mae’n cael ei dynnu i is-fyd treisgar mudiadau asgell dde.