Does dim llonydd i'w gael i'r Ditectif Jeff Evans, hyd yn oed ar draeth yng ngwlad Groeg. Pan gaiff papur newydd Prydeinig ei adael ar y gwely haul drws nesa iddo, a'r prif bennawd yn disgrifio damwain ffordd erchyll yng Nglan Morfa, mae Jeff yn dechrau amau ei fod yn cael ei wylio. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.