Ar ôl cyfnod cythryblus, a nifer o achosion treisgar, mae'r Ditectif Sarjant Jeff Evans yn fodlon ei fyd. Mae ganddo gartref newydd, gwraig hyfryd a mab bach; ond mae rhywun yn benderfynol o chwalu'r cyfan. Pwy sydd â'i fryd ar ddryllio bywyd a gyrfa Jeff? Ac a fydd wyneb o'r gorffennol yn dychwelyd i ddial arno?