Daw Sioned Wyn Roberts o Bwllheli yn wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Bu'n gweithio i'r BBC ac S4C am flynyddoedd lawer, gan gomisiynu amrywiaeth o raglenni ar gyfer plant o Cyw i Stwnsh. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2022 am ei nofel hanesyddol i ddarllenwyr yn eu harddegau, Gwasg y Nos, a chyhoeddwyd ei hail nofel ffuglen i oedolion ifanc, Wyneb yn Wyneb, yn 2023.