Dyma hanes Manod, Blaenau Ffestiniog yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf - hanes y bobl, eu diddordebau, eu gwaith a'u dull o fyw. Dilynir hanes cynnydd y fro i fod yn ganolbwynt dosbarthu'r llechi o'r chwareli; y dull trafnidiaeth a chreu ffyrdd newydd; y capeli a'u dylanwad a'u disgyblaeth; yr ymfudo i America o Gae Clyd; hanes meddygon lleol a dirywiad ardal wledig.