Yng ngwres eirias diwydiant y cafodd y Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw ei ffurfio. Diwydiant ddaru greu'r genedl Gymreig fodern. Yn y Gyfnewidfa yng Nghaerdydd yr oedd pris glo drwy'r byd i gyd yn cael ei osod ar adeg pan oedd prif lyngesau Ewrop a De America yn cael yn cael eu gyrru gan lo ager de Cymru.