Nofel ddirgelwch i oedolion. Trwy gyfres o ddigwyddiadau cyffrous, aiff Cefin Roberts â ni o bentref bach tawel yn Arfon i un o ddinasoedd llawn rhamant yr Eidal. Mae Emrys Pritchard wedi bod yn ei feio'i hun byth ers diflaniad ei unig ferch, Mari Lisa - cannwyll ei lygad - ac mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth iddo ar ôl i Carys, ei wraig, ei adael.