Dyma'r nofel olaf yn nhrioleg Y MELANAI am Efa a'i chriw. Ar ôl iddyn nhw ddianc i'r Diffeithwch Du rhag i Efa orfod lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed, maen nhw bellach wedi cyrraedd tir Edenia lle maen nhw'n dod o hyd i lwyth arall o bobl. Pa fath o groeso gawn nhw yno a beth fydd yn digwydd i Efa ar ddiwedd y drioleg?