Cyfrol yn dilyn hynt a helynt rhan o fywyd y bardd a'r ysgolhaig Gwyn Thomas; ceir hefyd ddarlun byw o gyfnod, sef ei gefndir mewn cymuned Gymraeg anghydffurfiol ddiwydiannol ym Mlaenau Ffestiniog. Profir chwerthin a dagrau, gorfoledd a dwyster cymdeithas gyfan, a threiddgarwch ac anwyldeb yr awdur yn pefrio drwy'r cyfan.