Rhan o gyfres hwyliog i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen am y byd gwyrdd ac am ailgylchu yn greadigol. Mae'n ddechrau mis Mai, ac mae Mamgu Iet-wen a'i ffrindiau yn treulio'r diwrnod yn casglu ac yn ailgylchu sbwriel a adawyd ar gae Dôl-wen.