Mae Joseff yn ffraeo gyda'i frodyr. Maen nhw'n anfon Joseff i ffwrdd i weithio fel caethwas. Tybed a fydd anrheg arbennig Joseff yn ei helpu i fynd yn rhydd a dod o hyd i'w deulu unwaith eto? Mae hon yn stori deimladwy sy'n dysgu gwerthoedd gofalu a maddeuant.