Un o eiconau amlycaf yr hen Geltiaid oedd y Llinyn Diddiwedd. A dyna yw nodwedd Canolfan Grefftau ac Aur Rhiannon ar sgw�r Tregaron. Sefydlwyd y busnes gan Rhiannon Evans yn 1971 gyda'r 'Syniad Da' o sefydlu menter Gymraeg a fyddai'n cynnig crefftau Celtaidd gwreiddiol o'r safon uchaf.