Llwybr go wahanol i batrwm arferol sefydlu busnesau oedd hwnnw a droediodd Cefin a Rhian Roberts wrth greu a datblygu Ysgol Glanaethwy. Yn y gyfrol hon, maen nhw'n adrodd y stori hynod - gan roi cefndir cynnar y weledigaeth a'r profiadau a gawsant yn y maes cyn sefydlu ysgol berfformio.