Mae gan Ifan Hopcyn gyfrinach, cyfrinach fawr na all ei datgelu i unrhyw un, ddim hyd yn oed i'w ffrind gorau, Alys. Mae Ifan yn byw yn y Tanfyd, sef byd hollol newydd sydd yn cael ei adeiladu o dan wyneb y ddaear. Ond mae Ifan wedi cael hen ddigon ar fod yn gaeth yn y Tanfyd. Dyma nofel wreiddiol gyntaf Eiry Miles.