Mae Pedro yn edrych fel pengwin arferol, yn swnio fel pengwin arferol ac yn bihafio fel pengwin arferol, ond nid pengwin arferol yw hwn... Un diwrnod aiff Pedro ar goll cyn cael ei ddarganfod gan ddau o blant bach, Caryl a Carlo, sy'n edrych ar ei �l hyd nes iddo ganfod y ffordd adre.