Mae argyfwng ym mhentref Gwaelod y Garn. Mae'r dŵr wedi diflannu o'r afon ac felly o bob tap ym mhob tŷ, a'r ysgol! Ar yr un pryd, mae Cawr Mawr y Sychder Maith wedi bod wrth ei driciau cas draw ar Blaned y Blodyn Bodyn. Tybed a all Alfred, Elen, Miss Prydderch a'r criw ffrindiau ddatrys pethau? All y Carped Hud eu cludo ymhell tu hwnt i'r sêr? Oes rhywbeth gan Alfred all achub y dydd?