Mae hi'n hydref yng nghoedwig Maes y Mes, ac mae Mwyaren yn edrych ymlaen at gasglu mwyar duon i wneud teisen flasus. Ond mae helbul mawr yn y goedwig. Mae Swnyn ar goll. Ac mae rhywun yn dwyn teisennau oddi ar sil ffenest Nain Derwen. A fydd Mwyaren yn dod o hyd i Swnyn ac yn datrys dirgelwch y lleidr?