Yn y gyfrol hon bydd y Prifardd Alan Llwyd yn trafod hanes ei fywyd a'r dylanwadau ar ei waith fel bardd, beirniad llenyddol a chofiannydd. Bydd y gyfrol hon, fel y teitlau eraill yn y gyfres yn rhoi cyfle inni ailymweld â gwaith y llenor trwy gyfrwng dyfyniadau barddoniaeth a rhyddiaith pwrpasol.