Mae Côr Hen Nodiant yn un o'r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. O dan arweiniad Huw Foulkes, maent wedi creu CD sy'n cynnwys 15 o emynau Cymraeg traddodiadol. Yn ogystal â'r CD, mae'r llyfryn hwn yn cynnwys geiriau a thonau'r hoff emynau hyn ynghyd â nodiadau ar fywyd a gwaith y cyfansoddwyr a'r awduron, gyda William Williams yn awdur chwech o'r emynau.