Casgliad o 14 o emynau traddodiadol a modern yn cynnwys cryno-ddisg o Gôr CF1, dan arweiniad Eilir Owen Griffiths, yn eu canu. Mae'r gryno-ddisg yn cynnwys 14 o emynau Cymraeg, a cheir llyfryn yn cynnwys y geiriau a'r tonau ynghyd â nodiadau ar fywyd a gwaith y cyfansoddwyr a'r awduron.