Stori gyda lluniau difyr ar gyfer plant sy'n dechrau cael blas ar ddarllen ar eu pennau eu hunain. Does neb yn ddiogel pan fydd Teleri Tynnu Coes o gwmpas y lle. Dychmygwch weld pryfyn yn eich cawl, neu geisio bwyta caws wedi'i wneud o rwber - ac am embaras eistedd ar glustog cnecian! Ond beth, tybed, yw'r joc mega-enfawr ar ddiwrnod olaf ei gwyliau?