Addasiad o lyfr lliwgar deniadol i blant. Rhagor o antur yn ysgol berfformio Plas Dolwen. Cyngerdd S�r y Dyfodol ydi uchafbwynt y flwyddyn yn ysgol berfformio Plas Dolwen. Bydd y sioe ar S4C ac mae Erin ar d�n eisiau cyfle i ganu - gallai hyn agor drysau i bob math o bethau cyffrous. Mae'n gwirioni'n l�n pan glyw ei bod wedi cael ei dewis. Ond mae'n rhaid iddi berfformio mewn band roc!