Addasiad o lyfr lliwgar deniadol i blant. Rhagor o antur yn ysgol berfformio Plas Dolwen. Cochyn Sboncyn siriol, â'i wallt coch cyrliog, ydi un o ddawnswyr gorau Plas Dolwen, yr ysgol breswyl ar gyfer perfformwyr talentog. Wrth glownio a chadw reiat, mae'n rhoi gwên ar wyneb pawb.