Addasiad o lyfr lliwgar deniadol i blant. Rhagor o antur yn ysgol berfformio Plas Dolwen. Drymiwr talentog tu hwnt ydi Dan. Mae'n boblogaidd iawn yn Ysgol Plas Dolwen ar gyfer y Sêr. Ond mae Charlie, yr unig ddrymiwr arall yn yr un flwyddyn, yn wenwynllyd, yn llawn hen ddrwgdeimlad annifyr ac yn mynnu tynnu'n groes.