Nid fy mai i oedd e! Y cyfan wnes i oedd trio dod â phawb at ei gilydd eto. Ro'n i eisiau i bethau fod fel ro'n nhw cyn i Dad adael. Ond fel pob un tro arall, aeth pethau o chwith. Pam bod yn rhaid i bopeth rwy'n ei gyffwrdd droi'n un strach mawr? Rwy'n teimlo fel cymaint o dwpsen. Addasiad Cymraeg o Sammie's Back .