Y gyfrol gyntaf mewn cyfres wreiddiol o 'lyfrau darllen hawdd' penigamp, pob cyfrol yn cynnwys dwy stori gref wedi'u hadrodd yn ffraeth mewn modd patrymog. Elfen bwysig yw'r darluniau llinell sy'n asio'n gelfydd �'r testun. Yma cawn hanes y dyn gwyrdd yn ffenest liw yr eglwys ac am dylwyth teg a gaiff y bai am bopeth! Straeon ardderchog i'w darllen yn uchel yn ogystal.