Argraffiad newydd o nofel ddadleuol Saunders Lewis, Monica, gyda rhagair gan Simon Brooks. Pan gyhoeddwyd y nofel yn 1930 bu'r ymateb yn danllyd iddi gyda nifer yn ei chyhuddo o fod yn anfoesol. Mae ei thema'n gwbl berthnasol i'n byd ni heddiw - gwacter ysbryd sy'n arwain at bechod, a hwnnw yn ei dro, at ddinistr. Dyma'r drydedd cyfrol yn y gyfres Clasuron Gomer.