Golygiad diwygiedig o gasgliad o ysgrifau Winnie Parry yn darlunio bywyd merch ifanc, ei chyfoedion a'i chydnabod yng nghefn gwlad Anghydffurfiol sir Gaernarfon yn yr 19eg ganrif sy'n arddangos dawn yr awdures i adrodd stori, ac i gyfleu sgwrs mewn arddull naturiol a byrlymus. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1906.