Argraffiad newydd o gerddi, rhigymau a sonedau T. H. Parry-Williams, yn cynnwys cyflwyniad gan Angharad Price. Cyhoeddwyd y casgliad yn wreiddiol yn 1931. Dyma gasgliad eiconig arloeswr barddonol a ddylanwadodd yn bell-gyrhaeddol ar lenorion eraill ei gyfnod drwy newydd-deb ei ieithwedd foel a'i fyfyrio teimladwy ar rymoedd y byd naturiol.