Llyfr dwyieithog sy'n olrhain hanes y Ddresel Gymreig. Mae harddwch a chymeriad dreseli Cymreig yn ddigamsyniol. Dros y canrifoedd, daeth y ddresel � statws a cheinder i'r gegin, yr ystafell fyw a'r parlwr gorau. Roedd dresel a'i chynnwys yn rhan bwysig o drefniadau priodas 'slawer dydd, a gwelwyd hi hyd yn oed mewn cartrefi llai crand yn fwy diweddar.