Cipolwg cryno ar hanes crochenwaith yng Nghymru. Mae'r jwgiau, ffigurau a llestri cegin a ddefnyddiwyd gan ein cyndeidiau yr un mor ddymunol i'r llygad heddiw ag yr oeddent pan gawsant eu creu. Mae'r gyfrol yn trafod creiriau'r 18fed ganrif yn bennaf, gyda'u darluniau o leoliadau, pobl enwog, golygfeydd gwerinol, a chestyll, oll mewn patrymau lliwgar.