Oddi ar cyhoeddi 'Briwsion yn y Clustiau', bu Myrddin ap Dafydd yn fardd plant cynhyrchiol a phoblogaidd. Mae barddoni i blant yn agos at ei galon ac mae'n ymwelydd cyson ag ysgolion Cymru. Mae'r casgliad hwn yn ddetholiad bywiog o'i gerddi ynghyd � nifer o rai newydd sbon, ac mae lluniau byrlymus Eric Heyman yn ychwanegu haenen bleserus arall fydd at ddant darllenwyr oedran cynradd.