Mewn llawer o drefi a phentrefi, yr hen dafarnau yw rhai o'r adeiladau mwyaf diddorol o safbwynt pensaerniaeth a hanes. Mae'u henwau hefyd yn costrelu llawer o dreftadaeth leol ac yn ddifyr o safbwynt cymdeithas ac arferion ddoe a heddiw. Yn y gyfrol hon ceir hanesion amrywiol am y straeon tu ôl i'r enwau.