Mae Megan ar bigau'r drain wrth baratoi i fynd i'r Gwersyll Haf gydag Alys. Bydd e'n FFANTASTIG - dim mwy o uwd organig Mam, dim ysgol, a dim byd ond hwyl o fore gwyn tan nos! Fe fydd 'na bob math o weithgareddau, gemau a disgo - ac yn bwysicach na dim, bydd Alys a Megan gyda'i gilydd.