Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: The Real Thing , sy'n rhan o gyfres newydd am bêl-droedwyr addawol sy'n ysu am wireddu eu breuddwydion. Mae Tomas, y gôl-geidwad ifanc, wrth ei fodd yn dychwelyd i Wlad Pwyl, ei wlad enedigol, i chwarae mewn twrnameint rhyngwladol, ond gall gwrthdaro rhyngddo ef a'i gapten fygwth llwyddiant y tîm.