Llyfr i blant 7-9 mlwydd oed. Mae Curig yn cael syndod mawr wrth glywed morlo yn dweud y drefn wrtho am gicio tun i'r môr. Ond mae gwaeth i ddod wrth i'r morlo fynd ag o ar daith anhygoel i weld y llanast ofnadwy y mae llygru diofal pobl yn gallu ei wneud i fyd natur. Stori-sy'n-odli fachog, lawn antur, am gyfrifoldeb pob un ohonom i warchod ein byd.