Cyfrol o ysgrifau teyrnged i'r diweddar Athro Dewi Z. Phillips gan gyfeillion a chydweithwyr yw Syniadau a Chysyniadau . Yn ei deyrnged i Dewi dywed Dr Meredydd Evans, 'mi sefydlodd ei hun fel athronydd o bwys cydwladol'. Yr oedd hefyd yn frwd dros athronyddu yn yr iaith Gymraeg.